Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (78) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30.
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.24
3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Y dystiolaeth sy’n tanategu’r achos dros ad-drefnu’r GIG yng Nghymru.
Dechreuodd yr eitem am 14.33
4. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ: Cyflwyno Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 15.06
5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol 2011
Dechreuodd yr eitem am 15.27
6. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: y wybodaeth ddiweddaraf am y Gronfa Gymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 16.00
7. Rheoliadau Dynodi Nodweddion (Apelau) (Cymru) 2012
Dechreuodd yr eitem am 16.39
NDM5032 Jane Hutt (Bro Morgannwg):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Rheoliadau Dynodi Nodweddion (Apelau) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mehefin 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8. Dadl ar Rifedd
Dechreuodd yr eitem am 16.40
NDM5031 Jane Hutt (Bro Morgannwg):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod rhifedd yn sgil hanfodol;
b) bod angen codi safonau rhifedd ar fyrder gydag ymrwymiad gan bob sector yn y byd addysg i gyflawni’r amcan hwn;
c) bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Rhaglen Rhifedd Genedlaethol i godi’n sylweddol lefelau cyrhaeddiad mewn rhifedd er mwyn cynorthwyo’r sector addysg a dysgwyr i godi safonau rhifedd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt b) newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
bod Cymru, o dan asesiad PISA 2009, yn 40fed o
blith 67 o wledydd ym maes mathemateg.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu is-bwynt b), a rhoi yn ei le ‘bod angen ymateb ar fyrder i’r hen broblem o safonau rhifedd yng Nghymru, nad yw Gweinidogion addysg blaenorol wedi mynd i’r afael â hi, er mwyn codi safonau rhifedd gydag ymrwymiad gan bob sector yn y byd addysg i gyflawni'r amcan hwn’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Yn is-bwynt b), ar ôl 'gydag ymrwymiad gan' dileu “bob”, ac ychwanegu 'Lywodraeth Cymru a phob'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
y gydberthynas sy’n parhau rhwng amddifadedd a'r lefelau cyrhaeddiad mewn rhifedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant
4.
Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod safonau rhifedd wedi dirywio, ar ôl deuddeg mlynedd ddi-dor o Weinidogion addysg Llafur mewn grym.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y rôl allweddol y gall rhieni a gwarcheidwaid ei chwarae wrth weithio gyda’r sector addysg i wella safonau rhifedd ymysg plant a phobl ifanc Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth fethiant Llywodraethau olynol Cymru i godi safonau rhifedd yng Nghymru yn ddigonol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
7 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod safbwynt Llywodraeth Cymru ei bod yn afrealistig disgwyl gwelliannau sylweddol ym mherfformiad Cymru yn yr asesiadau nesaf gan PISA, yn awgrymu nad ydynt ar frys i wella safonau rhifedd yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
26 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y Gweinidog i bennu targedau clir ar gyfer gwelliannau mewn mathemateg yng nghanlyniadau PISA 2012.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Gwelliant 10 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r buddsoddiad a ddarparwyd gan y grant amddifadedd disgyblion, a fydd yn helpu i wella lefelau rhifedd mewn ysgolion.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
7 |
13 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 10.
Gwelliant 11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu’r grant amddifadedd disgyblion yn ei flwyddyn ganlynol er mwyn parhau i helpu i wella lefelau rhifedd mewn ysgolion.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
7 |
39 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 11.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5031 Jane Hutt (Bro Morgannwg):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod rhifedd yn sgil hanfodol;
b) bod Cymru, o dan asesiad PISA 2009, yn 40fed o blith 67 o wledydd ym maes mathemateg;
c) bod angen codi safonau rhifedd ar fyrder gydag ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru a phob.sector yn y byd addysg i gyflawni’r amcan hwn;
d) bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Rhaglen Rhifedd Genedlaethol i godi’n sylweddol lefelau cyrhaeddiad mewn rhifedd er mwyn cynorthwyo’r sector addysg a dysgwyr i godi safonau rhifedd;
e) y gydberthynas sy’n parhau rhwng amddifadedd a'r lefelau cyrhaeddiad mewn rhifedd
2. Yn cydnabod y rôl allweddol y gall rhieni a gwarcheidwaid ei chwarae wrth weithio gyda’r sector addysg i wella safonau rhifedd ymysg plant a phobl ifanc Cymru.
3. Yn croesawu’r buddsoddiad a ddarparwyd gan y grant amddifadedd disgyblion, a fydd yn helpu i wella lefelau rhifedd mewn ysgolion.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod
Pleidleisio
17.24
Cafodd y cyfarfod ei ohirio a@i ail-gynnull am 17.26 ar gyfer y Cyfnod Pleidleisio.
9. Dadl Fer a ohiriwyd ers 27 Mehefin 2012
Dechreuodd yr eitem am 17.32
NDM5024 Leanne Wood (Canol De Cymru): Arafu’r traffig i sicrhau diogelwch ein plant ysgol.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:52
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, ddydd Mercher, 11 Gorffennaf 2012